[vc_row][vc_column][vc_column_text]Mae Llywodraeth Cymru’n wrthi’n ystyried deddfu ar isafbris alcohol er gwaethaf cais Llywodraeth y DU i symud yr hawl i ddeddfu ar alcohol oddi wrth y Cynulliad.
Cyn etholiad y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bil Drafft Iechyd y Cyhoedd (isafbris am Alcohol) (Cymru), gan ddatgan mai rhywbeth ar gyfer ystyriaeth y Cynulliad nesaf y byddai.
Serch hynny er bod Aelodau’r Cynulliad wedi bwrw pleidlais dros y Bil Cymru diwygiedig, bydd y penderfyniad ar werthu a chyflewni alcohol yn cael ei wneud gan San Steffan.
Yn y Senedd ar Ddydd Mercher (25 Ionawr) gofynnodd Aelod y Cynulliad Joyce Watson i’r gweinidog dros iechyd cyhoeddus am bolisi alcohol y llywodraeth. Gofynnodd Aelod Llafur Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Gobaith Llywodraeth Cymru diwethaf oedd cyflwyno isafbris am uned o alcohol fel modd lleihau yfed alcohol yng Nghymru ond ’rwyf ar ddeall, tan y model cadw pwerau newydd, ni fydd gennym yr hawl i ddeddfu. Felly, dyma fy nghwestiwn cyntaf – a oes gennym yr hawl i ddeddfu? Os nad oes gennym yr hawl, pa ffyrdd eraill sydd gennym tan ystyriaeth er mwyn lleihau dibyniaeth a cham-ddefyddio alcohol?”
Atebodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd:
“Ar hyn o bryd, tan y gyfundrefn bresennol, mae gennym yr hawl i ddeddfu ond, gwaetha’r modd, er gwaethaf nifer o ddadleuon a wneid i Lywodraeth y DU, dyma un o’r pwerau maent wedi ceisio cymryd oddi ar y Cynulliad yn y dyfodol – ond ’rydym yn dal i gefnogi cyflwyno isafbris er mwyn gweithio tuag at leihau niwed ag achosir gan alcohol. ’Rydym wrthi’n ystyried yr angen i ddeddfu ar y mater hwn.
“’Rydym yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn ar ein cynllun gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Cewch weld y manyllion yn ein cynllun diweddaraf am 2016 I 2018.”
Ychwanegodd Mrs Evans:
“Mae’n rhan o ysod eang o fesurau. Er enghraifft mae ein Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau yn gwneud gwaith ardderchog ac yn y Drenewydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ac mae mynd i’r afael â ag yfed o dan oed yn bwysig iawn. Mae’r buddsoddi yno’n rhan cefnogi partneriaeth cymunedol alcohol sy’n uno pobl leol, safonau masnach, yr Heddlu, ysgolion, a gwerthwyr alcohol er mwyn cynorthwyo pobl ifainc yn arbennig i beidio meithrin perthynas andwyol ag alcohol.”
Ychwanegodd Mrs Watson ar ôl y cwestiwn a’r ateb:
“Mae llawer o bobl wedi rhoi’r gorau i yfed alcohol yr adeg yma o’r flwyddyn. Bydd yn haws i rai nag i eraill gan fod presenoldeb alcohol mor amlwg yn ein cymdeithas.
“Mae’n ffaith, bod GIG – Iechyd Cyhoedd Cymru – yn amcangyfrif bod 75% o oedolion yn yfed gormod. Felly, ’rwyn falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gweithredu.”
Lansiodd Alcohol Concern ei ymgyrch Ionawr Sych yn 2013. Y llynedd, yn ôl yr elusen, ceisiodd un o bob chwech – 16% – i ymwrthod rhag alcohol am fis.”[/vc_column_text][/vc_column][/vc_row]