[vc_row][vc_column][vc_column_text]Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd y drefn i adleoli plant yng nghanol argyfwng mewnfudwyr Ewrôp yn gorffen ddiwedd Mis Mawrth ar ôl i gyfanswm o 350 plant wedi cyrraedd.
Galwyd y diwygiad Dubs ar ôl y cyn-ffoadur Arglwydd Dubs a’r nôd oedd cynorthwyo’r 90,000 ag amcangyfrifwyd fel plant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches. Er nad oedd nifer penodol yn y ddeddfwriaeth, awgrymodd yr Arglwydd Dubs bod yr DU’n medru cynnal 3,000 o’r plant mwyaf mewn angen ac ar eu pen eu hunain.
Yn sesiwn cwestiynau y Senedd ddoe, galwodd yr Aelod Cynulliad Llafur Joyce Watson am drafodaeth frys yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Dywedodd Mrs Watson:
“Lefarydd, a gawn fel mater o frys, amser i drafod ymateb Cymru i sefyllfa’r plant yng ngwersylloedd y ffoadurwyr yn Ewrop? Mynegodd etholwyr o Gynllun Gweithredu Canolbarth Cymru dros Foaduriaid a grwpiau eraill – a dyma eu geiriau – eu tristwch a’u erchylltra parthed penderfyniad Llywodraeth y DU i roi terfyn ar nifer o 350 plant yn unig, yn hytrach na’r 3,000 a gyfrifodd yr Arglwydd Dubs fel ein cyfraniad teg.
“Yn ôl y Llywodraeth, nid oes dim digon o le gan awdurdodau lleol. Hoffwn glywed oddi wrth Weinidog awdurdod lleol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pwynt penodol hwn.”
Ychwanegodd AC Canolbarth a Gorllewin Cymru:
“Fel y gwyddoch, mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried ar hyn o bryd y materion yma ac ’rydym yn gobeithio weld y canlyniadau fis nesaf. Ond mae arnom frys arbennig.
“Diddorol yw nodi yn ei chyfweliad diweddaraf yn y ‘New Statesman’ dywedodd y Prif Weinidog mai balchder oedd ei theimlad wrth gyflwyno’r Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Gwaetha’r modd gan wrthod noddfa mae hi’n gyfrifol o wneud y plant mwyaf anghenus yn y byd yn agored i gael eu masnachu a gwaeth. Ar y pwnc hyn dylai’r Siambr hon mynegu barn a gweithredu.”
Ar ran Llywodraeth Cymru, dywedodd Jane Hutt AC bod Carwyn Jones wedi ysgrifennu y diwrnod hwnnw at Theresa May yn ei hannog i wrthdroi’r penderfyniad hwn.
Yn ei lythyr pwysleisiodd bod Cymro’n genedl allblyg sy’n cymryd o ddifrif ei goblygiadau moesol.
Gorffen
Sylfaenydd a chadeirydd Grwp Trawsbleidiol y Cynulliad ar fasnach pobl
The transcript of the 31 January Plenary session is published here.
For information about Joyce Watson AM’s work contact Aaron Francis in her office on 0300 200 7092 or visit her website: https://www.joycewatson.org.uk/[/vc_column_text][/vc_column][/vc_row]