- 22/09/2017
- Posted by: Joyce Watson MS
- Category: Feature
Aeth yr Aelod Cynulliad Joyce Watson i Ysgol Ardudwy yr wythnos hon i drafod sut y gall ysgolion helpu i fynd i’r afael â thrais domestig.
Trefnwyd y cyfarfod yn sgil adroddiadau mai trais domestig yw un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r Gogledd.
Mae adroddiad a gyflwynwyd i banel troseddau’r Gogledd yn nodi bod nifer y digwyddiadau a adroddwyd wedi codi 33% yn 2017 – o 2,008 i 2,671 hyd yma eleni. Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, mae adroddiadau o drais domestig ledled Cymru wedi cynyddu 23% mewn tair blynedd.
Mae’r AC Llafur a’r ymgyrchwr gwrth-drais yn ymweld ag ysgolion ledled rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin i siarad am sut gallan nhw hyrwyddo cysylltiadau parchus.
Yn dilyn ei chyfarfod ddydd Llun (18 Medi) gyda phennaeth Ysgol Ardudwy Tudur Williams, meddai Mrs Watson:
“Mae’r ffigurau diweddaraf – a’r duedd – yn peri pryder mawr. Er mwyn dod â thrais domestig i ben, mae angen newid diwylliannol. Mae angen i bobl ifanc arwain y ffordd ac mae gan ysgolion gyfraniad mawr i’w wneud o ran annog agweddau a chysylltiadau cadarnhaol o oedran ifanc.
“Rwyf wrth fy modd bod Mr Williams mor barod i hyrwyddo agweddau cadarnhaol yn Harlech. Pan fo ysgol fel Ysgol Ardudwy yn dangos yr hyn y gellir ei wneud, mae ysgolion eraill yn gallu gwneud yr un fath.”
Meddai Tudur Williams:
“Mae Ysgol Ardudwy eisoes yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys tynnu sylw at drais domestig yn ein Rhaglen Addysg Bersonol a Chymdeithasol bresennol. Rydyn ni’n hynod falch y byddwn ni’n gallu hyrwyddo’r mater hwn ymhellach trwy fod yn rhan o ymgyrch ‘Rhuban Gwyn’ eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ein disgyblion yn cymryd rhan yn y digwyddiad arbennig yn Harlech i ddathlu’r diwrnod Rhyngwladol ym mis Tachwedd.”
Mae taith Mrs Watson o gylch yr ysgolion yn rhan o’i gwaith ymgyrchu ‘Rhuban Gwyn’ ehangach. Bob blwyddyn, mae hi’n gweithio gyda Sefydliad y Merched i hyrwyddo’r addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais domestig yn erbyn menywod a phlant, ei gydoddef na chadw’r peth yn gyfrinach. Gyda’i gilydd, maen nhw’n recriwtio dynion o bob cwr o Gymru ac o bob maes i fod yn llysgenhadon i gymeradwyo’r neges, ac yn trefnu digwyddiadau Rhuban Gwyn ledled Cymru i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd.
Ychwanegodd Joyce Watson AC:
“Rwy’n edrych ymlaen at y diwrnod pan na fydd rhaid i ni ymgyrchu. Ond cyn hired ag y byddwn ni’n gweld ffigurau fel y rhain, mae’n rhaid i ni barhau – mae’n bwysig bod y neges yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.”